Newyddion / News: Rhi Jorj wedi cael ei enwebu am ddwy wobr yng ngwobrau Selar eleni. Rhi Jorj has been nominated for two awards at this year’s Selar music awards.
Record Fer i’r EP ‘Amser’. Record Hir i’r albwm ‘Ysgafn’.
Cliciwch ar y ddelwedd isod i gofrestru i bleidleisio. Click on the image below to regsiter to vote.
Sianel Youtube newydd i Rhi Jorj! New Youtube channel for Rhi Jorj! @RhiJorj
Allan rwan! Out Now! Albwm newydd Rhi Jorj – Ysgafn. Allan rwan ar Bandcamp a bob man arall… New album Rhi Jorj – Ysgafn. Out now on Bandcamp and everywhere else… CD available from theThompsound Music Shop
Mawrth 06: Criw WI y Gogledd yn Llanelltyd. 2yp. Mawrth 11: Dros Ginio. Radio Cymru. 1-2yp. Mawrth 28: Theatr y Ddraig, Barmouth. £10. 01341450353. reservations@barmouthmusic.co.uk 19.30yh. Mawrth 29: Lansiad EP ‘AMSER’ EP Launch – Lleoliad /Venue – Stori yn y Bala. ‘Pay as you feel’ at the door. Proceeds to Addisons Disease Charities. Limited space. 19.30yh
Hydref 10: Ysbyty Ifan. Eglwys Hafan Ifan. Hydref 17: Rhandirmwyn (ger Llandoverey). The Royal Oak, 7.30yh. Hydref 25: Prestatyn. ‘Octoberfest’ at HQ Pencadlys. 5yh. Hydref 31: Llandderfel (ger Y Bala) at the Bryntirion. 8yh ymlaen.
Tachwedd / November 2025
Tachedd 14: Aberystwyth. Bank Vaults. 8yh. Tachwedd 22: Llangywer. ALBUM LAUNCH!!! Tickets. Tachwedd 28: Pontypridd. Clwb y Bont. 8yh. POSTPONED.
Merch o’r Bala ydw i sydd wedi dod yn ôl i gyfansoddi ers haf ’23. Rwyf yn cael fy ysbrydoliaeth o fy amgylch bob dydd ac yn cyfansoddi ar y guitar. Dwi’n hoff o chwarae gyda geiriau ac alawon. Rwy’n clywed caneuon wrth gerdded wrth Lyn Tegid yr afonydd a mynyddoedd. Mae pob can yn golygu lot i mi. Bues yn ddifrifol wael nôl ym Mhasg ’23 gyda clefyd prin o’r enw Addison. Bu yn brofiad a wnaeth drawsnewid fy mywyd on er gwell gan iddo fy arwain yn ôl at fy ffrind cyntaf – cerddoriaeth.
I’m a girl from Bala, North Wales, UK. I have come back to composing since the summer of ’23, and I’m inspired every day by nature and people I meet. I compose on the guitar and love to play with melodies and words – each song means a lot to me. I’m lucky to live in a very beautiful part of Wales and walk a lot by the lake and up the hills and songs just come to me very often on these walks. I was very ill in the Easter of ’23 with Addison’s Disease. It’s very rare and it was a life changing experience – but in a good way – it’s brought me back to my first friend – music. I have come out of survival mode into creative mode.
Frequently Asked Questions
Am beth mae’r caneuon? What are the songs about?
AMSER – Mae’r gân yma yn sôn am yr hyn ddigwyddodd pan yn sâl. Collais andros o lot o bwysau a teimlo fy ‘mod yn diflannu a colli gafael ar realiti – y geiriau “ti’n ngweld i? Ti’n nghlywed i?” yn y gytgan yn adlais o hyn. Neges y gân hefyd ydi bod ” amser yn pasio heibio ” ac ein bod oll yn anghofio yn ein bywydau prysur. ‘Dio ddim yn gân drist – dweud stori y digwyddiadau a atgoffa ni gyd bod hi’n bwysig gwneud y mwyaf o heddiw.
CÂN LLYN TEGID – Cefais fy magu yn y Bala ac mae’r llyn wastad ‘di bod yn rhan o fy mywyd – ac ar ôl cryfhau a gallu cerdded eto y lle cyntaf oeddwn i eisiau mynd iddo oedd y llyn wrth gwrs. Mae geiriau y gân yn syml ond dwi’n gobeithio yn creu darlun ohoni ac mae’r gerddoriaeth gyda thelyn a ffidl yn creu awyrgylch y lleoliad arbennig yma, “O hyfryd le, dywed i mi o le cefaist ti’r hyd i dawelu fy myd?”
DISGLEIRIA – Cân yn sôn am sut ddylai pawb gael cyfle i ‘ddisgleirio’ yw hon – “dywedodd i beidio a chuddio, bod dy hun ydi’r nôd “. Mae sain breuddwydiol i’r gân ac mae’n nodi fy môd yn teimlo yn ddiolchgar ac yn lwcus o fod yn cyfansoddi a pherfformio unwaith eto – cyfnod breuddwydiol ei naws i mi.
Be mae Rhi Jorj ‘di bod yn ei wneud? What has Rhi Jorj been doing?
Mae Rhi Jorj wrthi ar hyn o bryd yn recordio ei albwm ‘Ysgafn’. Mae’r caneuon i gyd wedi eu cyfansoddi ac mae Billy Thompson wrthi yn eu recordio a’u cynhyrchu.
Mae hefyd yn paratoi at y gigs i ddod ac yn edrych ymlaen yn fawr at lansiad yr EP yn y Stori yn Bala ar y 29 fed o Fawrth.
When will the EP be released and on what platforms?
Fydd o ar Bandcamp 21.02.2025 ymlaen. Pob un digidol ar 28.02.2025 ymlaen.
Will there be CDs available?
Nid ar gyfer yr EP ond bydd rhai CDs yn cael eu gwneud ar gyfer yr albwm llawn.